| Pregeth Gymraeg gan Parchg. E. D. Morgan |
|
| 'Rwy'n cofio pan oeddwn yn wyth mlwydd oed imi ennill gwobr mewn cystadleuaeth yn
un o eisteddfodau'r capel ar fedru adrodd enwau llyfrau'r Beibl i gyd
ar gof. Am ryw dri mis ar o+l hynny, byddwn yn
chwarae ge+m a+'r pregethwr, pan fyddai'n agor y Beibl i ddarllen ei destun ohono, i weld a allwn ddyfalu yn union pa
lyfr yr oedd ynddo!! Gan nad yw'n fwriad gennyf ddarllen y testun ar y dechrau fel hyn, a hynny am resymau arbennig, gadewch inni rhagymadroddi am ychydig. Fe ddylai unrhyw un sydd wedi rhoi ei fryd ar ofalu, fod wedi dysgu'r ddawn i wrando. Boed yn feddyg, nyrs, athro, gweithiwr cymdeithasol gyda'r gofal lletach, neu yn rhiant. Rhaid gwrando i ddeall, ac o ddeall, ymateb. Os nad yw'r gwrando wedi bod yn effeithiol, a ninnau wedi deall yn glir yr a ddywedwyd, yna nid oes modd ymateb yn synhwyrol. Awgrymir bod y Cristion yn arch-wrandawr, gan fod yno ddisgwyl iddo wrando ar ei Dduw yn llefaru
wrtho drwy Iesu Grist, nid yn yr ystafell ddirgel
yn unig, ond yn ei ymwneud a phobl wrth gwrdd a'i anghenion. Y mae Ysbyty Southampton wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn dros yr ugain mlynedd olaf. Mewn cyd-weithrediad a Llyfrgell Wessex mae wedi paratoi rhaglen o ddarllen ar gyfer pob claf a ddaw i mewn i'r ysbyty,- a hwnnw'n ddarllen penodol. Storiau wedi eu hysgrifennu gan eraill sydd wedi cerdded y llwybr o'u blaen, yw'r rhan fwyaf ohonynt. Teitl y gyfrol arbennig hon yw "Reflections". Yr unigolyn yn gweld ei hunan yn stori rhywun arall, a'r gyfrol gyda'i chymeriad yn datblygu yn rhyw fath o 'talisman', lle gwelir yr unigolyn yn mynnu deialog pellach, o bryd i'w gilydd, pan fyddo'r galw. Fe garwn i chi ystyried y Beibl fel cyfrol debyg - cyfrol yr adlewyrchiadau - 'A Volume of Reflections.' Ac os daethon i adnabod y gwahanol gymeriadau o'i mewn, yna fe wyddom pa gymeriad i droi ato pan fom mewn cyfyng-gyngor a phwyso arno. Taenwyd hen chwedl ar led bod Satan yn fethdalwr. Ac er mwyn digolledu ei hunan mae'n trefnu gwerthiant, ac yn gosod yr holl offer ddyfeisiodd ar draws y canrifoedd allan, i bawb eu gweld a'u prynu. Sylwodd un ymwelydd bod yno declyn, a gredai ef oedd yn ddiwerth, wedi ei brisio'n uchel. 'Pam wnaethoch brisio hwn mor uchel' meddai wrth Satan. 'Wel!' meddai yn o+l, 'mae'n offeryn defnyddiol iawn. Pan fyddaf yn ei ddefnyddio i godi clicied y galon, gallaf wneud beth a fynnaf a hi.' Enw'r offeryn bach oedd 'digalondid'. Rwy'n siwr i chi fod yn offeryn digalondid lawer gwaith. Rhoi rhwystrau ar ffordd rhywun neu daenu storiau o fethiant amdanynt. Fe gofiwch adegau pan gawsoch eich dadrithio'n llwyr eich hunain gan siarad sarhaus pobl eraill amdanoch. Mae'r cymeriad yr wyf am dynnu eich sylw ato wedi ei anfarwoli o fewn y Beibl am iddo fod yn gyfrwng calondid, a hynny ar adeg arbennig ym mywyd yr Apostol Paul. Ei enw oedd Onesifforus. Nid oedd gan yr Apostol ond gair o werthgawrogiad iddo, 'ymwelodd a mi a'm calonogi'n fynych - adfywiodd ei ymweliadau fi fel yr awel iach.' Anodd iawn ydi amgyffred yr Apostol mewn angen o'r math hwn o gymorth. Wedi'r cyfan bu'n arloeswr, yn genhadwr, yn sefydlwr eglwysi ac yn athro anghymar. Wynebodd bob math ar dreialon ac erledigaethau. Ond yma, yng nghysylltiadau'r testun, mae'n cael ei hunan mewn cell laith yn Rhufain, wedi ei amddifadu o'i ryddid. Yn y ddrama sy'n dilyn, sut yn y byd y mae Onesifforus yn mynd ati i'w galonnogi? 1. Yn y ffordd y mae'n adrodd stori'r eglwys wrtho. Dywedir i Onesifforus fod yn w+r cyfoethog a'i fod wedi teithio'n helaeth. Cafodd gyfle i weld y gwaith cenhadol yn mynd rhagddo a'r eglwysi yn brwydro i sefydlu eu hunain. Yma, yn y gell, yr oedd pob ymwelydd yn dod a'i newyddion diweddaraf gydag ef. Felly Onesifforus. Dyma fynd ati i ddadlennu'r olygfa i'r Apostol. So+n am yr erledigaeth gyson ar yr eglwysi a'r creulonderau llymion a'r fflangelli didrugaredd achoswyd ar eu haelodau. Ond buan yr aed ati i so+n am y dycnwch, a dyfalbarhad y Cristnogion yn wyneb popeth. Byddai wyneb yr Apostol yn gloywi trwodd wrth wrando arno yn so+n am y dewrder. Ymdeimlai i'r byw a'r acenion gobeithiol oedd yn y portread a roddwyd o stori'r eglwysi ieuanc ar draws Asia Leiaf gan Onesifforus. Mae i Onesifforus ei ddisgynyddion ymhob cyfnod yn hanes yr eglwys. Fe'i hadweinir wrth ei siarad gobeithiol pendant. Nid optimistiaid dall mohonynt sy'n gwbl anymwybodol o+'r sefyllfa gyfoes. Fe wyddant cystal a neb am y gwaith anodd o gyhoeddi Crist a dilyn y ffordd Gristnogol o fyw. Fe we+l yr Onesifforus cyfoes yr olwg ddu sydd ar bethau, ond un ochr i'r geiniog ydi hynny iddo, oherwydd fe we+l yr arwyddion gobeithiol sydd yno hefyd yn y darlun byd-eang. Cofiaf ddarllen
ysgrif ymddangosodd yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf oedd yn dwyn y teitl 'Lladd yr Achos'. 'Yn yr adeg difywyd
presennol hwn ar grefydd yng Nghymru,' meddir,' os am ladd yr achos yn effeithiol rhaid troi i swyddfa Pandemoniwm a chyflawni'r canlynol ':-
Mae'n eglur ddigon, felly, bod yr ymgais i ladd a digalonni mewn unrhyw sefyllfa i fod mor llwyr ag sydd yn bosbl. Pa sawl gwaith y gwelwyd aelodau eglwysig yn cyflawni'r tascau hyn ac yn creu digalondid i bob cyfeiriad. Prin yw'r bobl hynny yn ein plith sy'n fynhonnellau ysbrydoliaeth wrth adrodd stori'r eglwys y dyddiau hyn. O! fe w+yr yr Onesifforus cyfoes am yr olwg ddu sydd ar bethau, ond o edrych ar y darlun byd-eang gwe+l y cynydd aruthrol a'r llawenydd Cristnogol sydd mewn rhai rhannau o'r byd. Ac os oes yno fygwrth ffyrnig ar yr eglwys, ac ymgais daer i ddiffodd y fflam, dal i oresgyn y cyfan a wna, ar waetha'r cyfyngiadau a roir arni. Os am fod yn ffynhonnell calondid rhaid cyfeirio meddyliau pobl at y ffactorau gobeithiol yn y sefyllfa, a gweud yn glir 'bod Duw yn ddyfal wrthi yn gweithio ei bwrpas i ben'. Gofalwn bod y ffordd yr adroddwn stori'r eglwys wrth eraill yn ffynhonnell calondid. 2. Heriodd Onesifforus yr Apostol i weld y posibiliadau gobeithiol pendant oedd yn ei garchariad. Mae yno elfen gref o anobaith yn y darlun. Roedd Apostol y Cenhedloedd mewn carchar. Faint o eglwysi oedd yn hiraethu am ei weld? Byddai cael ei gwmni yn ymgeledd llwyr iddynt. Faint o dir gwyllt oedd yn barod i'w hadu a'r Efengyl? Sut yn y byd y gellid cael gwared a'r ymdeimlad dwfn hwn o anobaith. Roedd hi'n weinidogaeth anodd. Gadewch inni ddychmygu'r darlun a'r ddeialog rhynddynt. 'Gwn,' meddai Onesifforus wrtho,'bod y sefyllfa'n ddigalon, ond 'rwy'i am i ti ystyried bod dy garchariad yma yn Rhufain yn mynd i fod o les. Pan oeddet ti yn rhydd i ymweld a'r eglwysi, 'roedd dy bresennoldeb a'th bregethu grymus yn ysbrydoliaeth iddynt. Ond fe garwn i ti gofio bod pregethau yn bethau yr anghofir amdanynt yn gyflym iawn. Yma 'rwyt yn ysgrifennu llythyrau atynt, ac fe'i cedwir yn adnodd parhaol i gwrdd a phob gofyn pryd bynnag bo'r galw.' Ni allwn or-bwysleisio gwerth y llythyrau hyn ar draws y canrifoedd. Buont yn drysorau amhrisiadwy, yn arbennig yn y cyfnodau hynny pan drodd dynion fel Awstin, Luther, ac eraill a'u cael yn gymaint ysbrydoliaeth nes ysgwyd yr eglwys i'w sail. Fe garwn weld yr unigolyn a'r eglwys yn profi o werth y llythyrau hyn eto, ynghanol ei gwewyr a'u cysgadrwydd cyfoes, a'u dihuno i fywyd newydd. 'Ond mae yno un peth arall y carwn i ti ystyried', ychwanegodd Onesiphorus,' fe fydd yr erledigaeth yn mynd rhagddi. Ni allaf feddwl am gyfnod yn hanes yr eglwys pan na fydd yno erledigaeth. Bydd dy ddewrder di yn y gell yn y fan yma yn ysbrydiaeth i'r eglwysi ddal ati.' Mae yno filoedd yn rhannu yn y digalodid hwn a'r Apostol. Maent yn teimlo bod ei sefyllfa yn ei gwneud yn gwbl amhosibl iddynt dystiolaethu'n ystyrlon a gweithio'n effeithiol dros Grist a'i Deyrnas. Maent, fel petai, mewn cell a'r drws ynghaead. Dyma'r adeg i ofalu bod yr Onesifforus cyfoes wrth law i herio'r negyddiaeth a'u gorfodi i weld y posibiliadau pendant sydd yn y sefyllfa, er eu bod yn guddiedig braidd. Nid oes yr un sefyllfa mor anobeithiol nas gellir ei drawsnewid gan fywyd mentrus, anturiaethus y ffydd Gristnogol. A bod yn gwbl argyhoeddedig bod angen goleuni'r ffydd Gristnogol ar bob cyflwr o fywyd. Rhaid deall bod y calonnogwr, gyda'i ddawn anghymar, yn heriwr heb ei fath ar adegau. 3. Drwy uniaeth ei hun a'r Apostol. Wrth fynegi ei werthfawrogiad o'i ymweliadau mynych a'r carchar, gwna'r Apostol Paul gyfeirio at y ffaith nad oedd ar Onesifforus gywilydd o fath yn y byd ymweld a'r gell laith hon. Awgrymwyd bod Onesifforus yn w+r o bwysigrwydd ac o dras bonheddig. Os gwir hyn, gallasai fod wedi defnyddio ei gyfoeth i gyrraedd yr Apostol drwy ddanfon negeswyr gyda'r cyfan oedd yn angenrheidiol arno, neu ambell lythyr i'w atgoffa ei fod yn dal i weddio drosto. Ni fuasai hyn wedi bod yn berygl bywyd iddo ac yntau yn gorfod teithio ar draws dinas baganaidd i gyrraedd y lle. Na, mynd ei hunan wnaeth ac eistedd gyda'r Apostol. Dyma'r gwerthfawrogiad bennaf. Ymrwymiad personol yw hanfod y ffydd Gristnogol. Nid disgybl o bell oedd Onesifforus - byddai hynny'n wrtheb llwyr, mwy nag y gellir so+n am Gristion slei. Gw+r oedd hwn oedd yn barod, heb gywilydd o gwbl, uniaethu ei hun a'r Apostol Paul ac yntau mewn cadwynnau oherwydd ei ffydd. Roedd hyn yn galondid arbennig iddo. Dyma ddiwedd ar ein myfyrdod ar gyfraniad Onesifforus. Byr fu ei ymddangosiad ar dudalennau'r Testament Newydd, ond ni allwn feddwl am neb gafodd gwell gwrogaeth gan yr Apostol. Gw+r yw'r calonogwr sydd bob amser yn gweithredu mewn sefyllfa arbennig. Efallai nad yw'r arfer o roi cefnogaeth a chalondid yn ymddangos yn uchel iawn yn rhestr ein blaenoriaethau, ond o astudio dull Onesifforus o gyfarfod a+'r her ym mywyd yr Apostol Paul, mae'n werth sylwi'n ofalus ar y gwahanol nodweddion a ddaeth i'r golwg. Ei ffordd o adrodd newyddion wrtho; yr her o'i gael i wynebu ei argyfwng yn gadarnhaol; a'i barodrwydd i rannu ei hunan a'r un oedd mewn angen. Dyma'r cofiant bach ac fe'i ceir 2 Timotheus 1: 16 - 18:-
GEIRFA:
|
![]()
Questions or comments about this site? Please contact Diana.
This page last modified August 3, 2002